Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 1
Rhagfyr 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ailadeiladu Economaidd - Tynnwyd yn ôl
(0 munud)
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl
(45 munud)
5 Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Arloesi Digidol – Ymateb i Adolygiad Brown
(45 munud)
6 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig - Gohiriwyd tan 8 Rhagfyr 2020
(0 munud)
Ni chyflwynwyd cynnig.
7 Dadl: Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru
(30 munud)
NDM7490 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi ail adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar y ffordd y mae Tribiwnlysoedd Cymru yn gweithredu.
Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Ail Adroddiad Blynyddol 2019-2020
8 Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws - Cyfyngiadau Mis Rhagfyr
(45 munud)
9 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 2 Rhagfyr 2020